Gweld swydd wag -- Uwch Dechnegydd
Rydyn ni am benodi Uwch Dechnegydd i weithio yn y garfan Strwythurau; carfan brysur sy'n rhan o Adran Rheoli Asedau Seilwaith yn Uwchadran y Priffyrdd a Gwasanaethau Gofal y Strydoedd.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymorth i ddarparu Gwasanaeth Seilwaith y Priffyrdd o safon uchel.
Mae profiad o reoli / cynnal a chadw priffyrdd a / neu Ddylunio / Rheoli / Cynnal a Chadw strwythurau priffyrdd yn ddymunol.
Bydd dyletswyddau a phrif swyddogaethau'r rôl yn cynnwys:
- Helpu i ddatblygu a chydlynu rhaglenni seilwaith y priffyrdd, gan gynnwys priffyrdd a strwythurau.
- Cynorthwyo â gwaith arolygu ac archwilio a diweddaru cronfeydd data.
- Cynnal arolygon safle pan fo angen er mwyn paratoi dyluniadau ar gyfer cynlluniau seilwaith y priffyrdd.
- Diweddaru systemau mapio a chronfeydd data.
- Cynorthwyo â goruchwylio, archwilio a monitro gwaith sy'n cael ei gyflawni gan gontractwyr/ymgynghorwyr, yn ôl yr angen, mewn perthynas â gofynion cytundebau a rhaglen a chyllideb awdurdodedig.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â'r holl ddeddfwriaeth, rheoliadau a rhwymedigaethau statudol perthnasol eraill sy'n gysylltiedig â phrosiectau seilwaith y priffyrdd.
- Ymateb i gwynion, ymholiadau a cheisiadau am wasanaeth yn unol â pholisïau a chanllawiau'r Cyngor.
Am ragor o wybodaeth am y swydd, ffoniwch Laurence Sutton, Arweinydd Carfan Strwythurau'r Priffyrdd ar (01443) 281168.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn ac sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.