Gweld swydd wag -- Goruchwyliwr Carfan (Refeniw

Cyllid - Refeniw a Budd-daliadau
Prif Weithredwr
Adnoddau Dynol
Gradd 9
£32,020
Amser Llawn Parhaol

Mae Gwasanaethau Pensiynau, Caffael a Thrafodion yn gyfrifol am ddarparu nifer o wasanaethau rheng flaen pwysig sy'n effeithio ar drigolion a busnesau yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r gwasanaeth hefyd yn gyfrifol am gyflawni sawl agwedd ar gymorth busnes allweddol, gan sicrhau bod pob adran y Cyngor yn rhedeg yn ddi-drafferth gan gynnwys yr adrannau canlynol; cyflogres, caffael, taliadau, gwrth-dwyll. Mae e hefyd yn gyfrifol am weinyddu swyddfa bensiynau fawr.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r adrannau yma wedi cyflawni'n dda, ac mae'r Cyngor wedi cael ei gydnabod yn allanol am y ffordd y mae'r gwasanaethau yma wedi gweithredu a chael eu rheoli. Fodd bynnag, fel llawer o sefydliadau a busnesau, mae pandemig COVID-19 a'r argyfwng costau byw presennol wedi effeithio ar ddarpariaeth llawer o'r gwasanaethau yma, gan achosi gwaith ychwanegol yr oedd rhaid i garfanau'n gweithlu presennol ni ei ysgwyddo.

Dydy'r Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau sy'n gyfrifol am weinyddu a chasglu treth y Cyngor, cyfraddau busnes a dyledion amrywiol, ynghyd â thalu Budd-daliadau Tai a hawliadau Cymorth Treth y Cyngor, ddim wedi bod yn eithriad.

Felly, mae'r Gwasanaeth Refeniw yn bwriadu penodi Goruchwyliwr Carfan ychwanegol a fydd yn gyfrifol an oruchwylio'r carfanau sy'n prosesu'r llifau gwaith yma o ddydd i ddydd.

Bydd gofyn ichi hefyd weithredu a monitro cydymffurfiaeth Premiwm Treth y Cyngor sydd am gael ei godi ar dai gwag ac ail gartrefi yn Rhondda Cynon Taf. Gan gydlynu'n agos â Strategaeth Tai Gwag y Cyngor, bydd gofyn ichi sicrhau fod perchnogion tai yn ymwybodol eu bod yn gorfod talu'r premiwm yn ogystal â chynnig cymorth a chyngor i ddod a'u heiddo yn ôl i ddefnydd.

Bydd disgwyl ichi gynrychioli'r Cyngor mewn gwrandawiadau llys a thribiwnlysoedd, gan ddelio'n benodol ag apeliadau yn ymwneud â phremiwm treth y cyngor.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar brofiad, ysgogiad ac ymrwymiad perthnasol i wneud cyfraniad cadarnhaol at gyflawni nodau ac amcanion y Cynllun Darparu Gwasanaethau.

Mae profiad uniongyrchol mewn swydd debyg mewn Gwasanaeth Refeniw yn fantais ond ddim o reidrwydd yn ffactor sy'n atal pobl sydd â'r sgiliau a'r rhinweddau cywir ar gyfer y swydd yma.

Am ragor o wybodaeth yn ymwneud â'r swydd yma, cysylltwch â Matthew Davies (Rheolwr Gweithredol - Twyll Corfforaethol a Refeniw) drwy ffonio 07887 450732 neu e-bostio: Matthew.L.Davies@rctcbc.gov.uk.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn ac sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Oldway House
Porth Street
Porth
CF39 9ST
19 Ebrill 2023
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.