Gweld swydd wag -- Ymarferydd Gofal Plant Preswyl Dros Nos

Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 6
£24,054 pro rata
Rhan-amser Parhaol

Mae gyda ni swydd ar gael ar gyfer Ymarferydd Gofal Plant Preswyl Dros Nos. Mae'r swydd yn rhan amser, 18 awr yr wythnos ar gytundeb parhaol. Byddwch chi'n ymuno â'r garfan yng Nghartref Bryndâr i Blant yng Nghwmdâr, Aberdâr.

Byddwch chi'n gweithio gyda phlant a phobl ifainc agored i niwed rhwng 7 ac 18 oed, mewn amgylchedd sy'n ystyriol o drawma, trwy roi cymorth i gynnal trefn arferol mewn amgylchedd meithringar, a chynorthwyo pobl ifainc i ddatblygu sgiliau cymdeithasol yn y gymuned leol ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau.

O'ch penodi, byddwch chi'n atebol i'r Rheolwr Cofrestredig am:-

  • Trefniadau cynllun gofal o ddydd-i-ddydd y person ifanc.
  • Cyfrannu'n gadarnhaol at ddarparu gwasanaeth o safon.
  • Gweithio'n rhan o garfan.
  • Bod yn frwdfrydig, gofalgar, cyfeillgar a dymunol a chanolbwyntio ar y plentyn.
  • Bod yn gyfrifol am eich datblygiad a'ch dysgu eich hunan.
  • Gwneud dyletswyddau domestig.
  • Cyfrannu at y gweithgareddau ymarferol sy'n hanfodol i gynnal y cartref.
  • Hyrwyddo lles preswylwyr drwy annog ffordd iach o fyw, cyraeddiadau addysgol a gweithgareddau hamdden ysgogol.
  • Rhaid i chi fod yn barod i fod yn hyblyg gan y bydd y rôl yn cynnwys penwythnosau a Gwyliau'r Banc.
  • Yr oriau gweithio fydd 10.15pm i 7.15am gydag opsiwn o weithio oriau ychwanegol.

Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar (neu fod yn barod i ddilyn cwrs) cymhwyster Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan a FfCCh Lefel 3, Diploma Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru naill ai o'ch penodiad neu yn dilyn cyflawni Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r swydd, ffoniwch Carol Booth, Rheolwr Cofrestredig ar (01685) 874365.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn ac sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

18
Bryndar Children's Home
Cherry Drive
Cwmdare Aberdare
CF44 8RJ
14 Mawrth 2023
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.