Gweld swydd wag -- Ymarferydd Gofal Plant Preswyl Dros Nos - Cartref Preswyl i Blant Carn Ingli

Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 6
£24,054 Pro-rata ynghyd â lwfans nos
Rhan-amser Parhaol

Cartref Preswyl i Blant Carn Ingli 

Ydych chi'n awyddus i gael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifainc?

Ydych chi'n unigolyn gweithgar a gwydn sydd â'r gallu i ymgysylltu â phlant a phobl ifainc a'u cefnogi nhw'n emosiynol?

Dyma gyfle i benodi Ymarferydd Gofal Plant Preswyl (Dros Nos) rhan amser i'n cartref asesu â dau leoliad sefydledig yn Aberdâr. Dyma rôl amrywiol lle bydd gofyn i chi gefnogi plant a phobl ifainc, a'u teuluoedd, i ddiwallu anghenion a chyflawni canlyniadau cadarnhaol.

A chithau'n Ymarferydd Gofal Plant, byddwch chi'n rhan o garfan ofalgar sy'n darparu cartref diogel a chefnogol i hyd at ddau o blant a phobl ifainc. Mae gwaith y cartrefi'n cael ei arwain gan Reolwr Cofrestredig ac uwch aelodau staff profiadol. Nod y lleoliad yw darparu asesiad gwybodus o anghenion unigol, gan weithio i ddychwelyd plant a phobl ifanc i'w cartrefi lle bo modd, neu i leoliad gofal tymor hwy sydd wedi'i asesu'n briodol.

Byddwch chi'n ymroi i wella bywydau plant sydd ag anghenion cymhleth a rhai sydd wedi profi trawma yn ystod eu plentyndod. Darparu amgylchedd glân a threfnus, lle mae modd darparu gofal a chymorth i ddau o blant a phobl ifainc. Bydd disgwyl i chi fod yn greadigol ac ymgysylltu'n weithredol wrth weithio'n uniongyrchol a chynnal gweithgareddau, bydd hyn yn llywio'r asesiad. Byddwch chi'n cael eich cefnogi ac yn derbyn hyfforddiant i weithio mewn amgylchedd therapiwtig gan fanteisio ar y Model Adfer Trawma.

Bydd llawer o'ch gwaith chi'n cynnwys cefnogi unigolion i weithio trwy eu profiadau unigol gan weithio tuag at wella a meithrin gwytnwch i gyflawni nodau personol.

Bydd y gwaith yma'n cynnwys darparu cefnogaeth emosiynol a chorfforol sy'n caniatâu i bobl ifainc gyflawni eu potensial llawn, weithiau, mewn sefyllfaoedd heriol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda theuluoedd a phobl broffesiynol i sicrhau bod y gofal a'r cymorth wedi'u haddasu i weddu anghenion unigol. Bydd natur y rôl yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus allu teithio ledled RhCT yn annibynnol.

I lwyddo yn y rôl yma rhaid i chi fod yn unigolyn angerddol ac amyneddgar, a rhaid i chi ymrwymo i'r bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw ac i safonau proffesiynol y swydd.

Bydd disgwyl i ymgeiswyr arddangos:

  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog
  • Agwedd gadarnhaol a gwytnwch
  • Ymrwymiad i ddarparu amgylcheddau diogel a gofalgar i blant a phobl ifainc sy'n eu hannog nhw i ddysgu ac i ddatblygu
  • Cydymdeimla ac empathi, a brwdfrydedd dros wneud penderfyniadau personol
  • Y gallu i feithrin perthnasau cryfion
  • Brwdfrydedd ac ymrwymiad i ddysgu
  • Y gallu i weithio'n hyblyg - bydd y patrwm gwaith yn cynnwys gweithio ar brynhawniau a nosweithiau o dro i dro yn ogystal â phenwythnosau, gwyliau banc a dyletswyddau dros nos.

Bydd disgwyl i chi feddu ar, neu fod yn barod i weithio tuag at Ddiploma QCF Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) neu gymhwyster NVQ Lefel 3 (Plant a Phobl Ifainc). Byddwch chi'n cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru naill ai o'ch penodiad neu yn dilyn cyflawni'r Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol yn llwyddiannus.

Rydyn ni’n cydnabod bod maes Gofal Cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu mewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol er mwyn i'n staff gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Bydd modd i weithwyr Cyngor RhCT hefyd fanteisio ar ystod eang o fuddion staff sy'n cynnwys:

  • Bydd ymgeiswyr llwyddiannus sydd ddim yn meddu ar gymhwyster perthnasol yn derbyn cefnogaeth i gyflawni Diploma QCF Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) o fewn 2 flynedd o'u penodi.
  • Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth angenrheidiol wedi'i ariannu'n llawn i ymgymryd â'r rôl, yn ogystal â chymorth proffesiynol mewnol
  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth
  • Taliadau ychwanegol am weithio oriau anghymdeithasol
  • Cynllun Beicio i'r Gwaith
  • Aelodaeth Hamdden am Oes ratach
  • Cerdyn gostyngiadau i staff – Cerdyn Vectis
  • Cynllun Prynu Technoleg

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad ydy unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddynt hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

22:30 awr yr wythnos. Nosweithiau 10.30pm - 7.30am. Shifftiau yn ystod yr wythnos, ar benwythnosau ac ar Wyliau'r Banc
Carn Ingli
Wenault Road
Abernant
CF44 0RT
14 Ebrill 2023
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.