Gweld swydd wag -- Ymgynghorydd Cysylltiol ar gyfer ILlCh: Cyfrwng Cymraeg

Addysg - dim addysgu
Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant
Consortiwm Canolbarth y De y Gwasanaeth Addysg ar y Cyd
Soulbury
£55,553 - £59,371 & 3 SPA points
Amser Llawn Parhaol

Consortiwm Canolbarth y De – Gwasanaeth Addysg ar y Cyd 

GRYMUSO YSGOLION I WELLA DEILLIANNAU AR GYFER POB DYSGWR

Ymgynghorydd Cysylltiol ar gyfer ILlCh: Cyfrwng Cymraeg

Cytundeb parhaol amser llawn (37 awr)

Soulbury 15 – 18 + 3 pwynt SPA

£55,553 - £59,371, max £62,626

Mae Consortiwm Canolbarth y De (CCD), sy'n cynnwys pum Awdurdod Lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, a Bro Morgannwg, yn gweithio mewn partneriaeth i gyflawni trefniadau uchelgeisiol ar gyfer gwella ysgolion trwy Her Canolbarth De Cymru. Ar y cyd â’n hysgolion, rydym yn benderfynol y bydd pob plentyn a pherson ifanc ym mhob ysgol yn profi tegwch a rhagoriaeth ac yn gwireddu eu potensial.  

Rydym yn awyddus i benodi arweinydd canol talentog sydd â phrofiad o ddatblygu ILlCh: Cyfrwng Cymraeg ar draws yr ysgol. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd hon weithio gyda thîm gwella ysgolion CCD, awdurdodau lleol ac ysgolion ar draws y rhanbarth i sicrhau bod CCD yn dod yn lle rhagorol ar gyfer addysgu, arweinyddiaeth ysgolion a chyflawniadau disgyblion gan gefnogi datblygiad system sydd yn gwella ei hun.

Bydd y swydd hon yn cefnogi cydlynu a datblygu’r strategaeth rhanbarthol ar gyfer ILlCh: Cyfrwng Cymraeg. Ymhlith y cyfrifoldebau mae cefnogi datblygiad cyfleoedd dysgu proffesiynol (DP) o ansawdd uchel a chefnogaeth bwrpasol i ysgolion. Bydd deiliad y swydd yn cydweithio ag ysgolion, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol ac asiantaethau partner eraill sy’n ymwneud â’r maes hwn.

Croesewir geisiadau gan ymgeiswyr sydd yn athrawon gwych sydd wedi profi eu bod yn medru codi safonau. Rhaid i ymgeiswyr hefyd fod yn ymwybodol o flaenoriaethau cenedlaethol, CCD, yr awdurdod lleol ac ysgolion a’r hyn mae’r rhain yn ei olygu ar gyfer datblygu gweithlu addysg o ansawdd uchel.

Croeso i ddarpar ymgeiswyr gysylltu â Cathryn Billington-Richards am drafodaeth anffurfiol:

E-bost: Cathryn.Billington-Richards@cscjes.org.uk

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION SY’N AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I GONSORTIWM CANOLBARTH Y DE A’R CYNGOR 

YN YCHWANEGOL AT Y CYFRIFOLDEB DIOGELU HWN, BYDD YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD YN DESTUN GWIRIAD DATGELU A RHWYSTRO MANYLACH 

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+. 

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg. 

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. 

37
Valleys Innovation Centre
Navigation Park
Abercynon
CF45 4SN
21 Hydref 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.