Gweld swydd wag -- Swyddog Ymgysylltu, Cyfranogiad ac Ymgynghori Cenedlaethol

Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant
Gradd 11
£36,371 pro rata
Rhan-amser Parhaol

Dyma gyfle cyffrous i ymgeisydd addas ymuno â Chonsortiwm Comisiynu Plant Cymru i gyflawni swydd newydd, sef Swyddog Ymgysylltu, Cyfranogiad ac Ymgynghori Cenedlaethol.   Mae'r garfan yn darparu gwasanaeth comisiynu cenedlaethol i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ac yn rheoli Fframwaith Cymru Gyfan ar gyfer lleoliadau gwaith ym meysydd Maethu Annibynnol a Phreswyl.

Byddwch chi'n rhan o garfan ymroddedig sy'n canolbwyntio ar sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i blant a phobl ifainc.  Llais y plentyn sydd wrth graidd popeth rydyn ni'n ei wneud yng Nghonsortiwm Comisiynu Plant Cymru. Mae'r Nod Barcud Cyfranogiad Cenedlaethol ar waith, a hefyd Rhaglen Comisiynwyr Ifainc sydd wedi’i hen sefydlu er mwyn ymgysylltu â phlant rhwng 6 oed hyd at y rhai sy'n gadael gofal, sy'n byw â rhiant maeth neu mewn cartref plant yng Nghymru.

Mae'r Garfan, sy wedi'i lleoli yn Abercynon, o dan ofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Serch hyn, rydyn ni'n cefnogi gweithio o bell.   Bydd gofyn i chi deithio ledled Cymru yn rhan o'r swydd yma, gan weithio'n uniongyrchol â phlant a phobl ifainc sy'n byw mewn lleoliadau amrywiol.

Bydd yr ymgeiswyr yn cefnogi a galluogi ein Comisiynwyr Ifainc i gymryd rhan yn effeithiol ac yn cael dylanwad ar y Consortiwm Comisiynu Plant Cymru a pholisi cenedlaethol drwy weithio â nifer o bartneriaid strategol.  Bydd angen gweithio'n hyblyg ar gyfer y swydd yma, ac mae  disgwyl i chi weithio gyda'r nos, dros y penwythnos ac yn ystod gwyliau'r ysgol ar adegau.

Bydd ymgeiswyr yn arddangos profiad o weithio â phlant a phobl ifainc, a phrofiad o ddefnyddio gwaith cyfranogi ac ymgynghori i ddylanwadu ar wasanaethau a’u gwella.   Bydd y gwaith yn ddelfrydol i'r unigolion hynny sy'n cyfathrebu'n effeithiol â chynulleidfaoedd amrywiol drwy ddefnyddio cyfryngau gwahanol yn greadigol, y rhai sydd ag ethos cryf o hyrwyddo cynhwysiant a chefnogi amrywiaeth, a'r rhai sy'n gweithio'n dda yn rhan o garfan ac yn meddu ar y gallu i weithio'n annibynnol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddianus Radd mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned (neu gymhwyster cyfwerth) a phrofiad o weithio ym maes Gwaith Ieuenctid neu Wasanaethau i Blant.  Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r swydd, ffoniwch Andrea O’Shea, Swyddog Comisiynu Strategol Cenedlaethol y Consortiwm Comisiynu Plant Cymru ar 01443 570098.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad ydy unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddynt hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

21
Valleys Innovation Centre
Navigation Park
Abercynon
CF45 4SN
14 Hydref 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.