Gweld swydd wag -- Cynorthwy-ydd Achlysuron Arbennig - Swydd Achlysurol

Celfyddydau / Achlysuron / Twristiaeth
Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen
Ffyniant a Datblygu
Gradd 1
£9.59 yr awr
Gweithwyr Dros Dro

Cynorthwy-ydd Achlysuron Arbennig - Swydd Achlysurol

Mae'r Garfan Achlysuron yn dymuno penodi nifer o bobl  frwdfrydig i ymuno â'n carfan achlysuron arbennig.

Mae'r swydd yn cynnwys rhoi help ymarferol i gynnal achlysuron; gan gynnwys y gwaith paratoi a'r gwaith o glirio. Mae gwaith achlysuron yn eithriadol o heriol, ond yn cynnig llawer o foddhad hefyd. Bydd disgwyl i chi weithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun ac yn rhan o garfan.

Bydd y swydd yma'n cynnwys gweithio ar benwythnosau, gyda'r nos a Gwyliau Banc.

Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y swydd, ffoniwch Scott Treeby (Cydlynydd Achlysuron) ar 07880 044596.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

Yn ôl y galw
Various sites across RCT
*
*
*
14 Hydref 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.