Gweld swydd wag -- Swyddog Rhanbarthol Ymgysylltu â'r Gweithlu Dros Dro - Gyrfaoedd mewn Gofal Cymdeithasol, y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
Cyfle Secondiad
Llawn amser (37 awr) - Rock Grounds Aberdâr Bydd gofyn i ddeiliaid y swydd weithio ledled ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr.
Dyma gyfle i unigolyn weithio yng Ngwasanaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol hynod lwyddiannus Cwm Taf Morgannwg am gyfnod o 6 mis i gyflenwi yn ystod cyfnod mamolaeth. Bydd deiliaid y swydd yn ymuno â charfan fywiog wrth inni barhau i fodloni anghenion y gweithlu gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yn y sectorau statudol, gwirfoddol ac annibynol.
Dyma amcanion allweddol swydd:
- Darparu pwynt cyswllt rhanbarthol ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru i hwyluso cyflwyniad effeithiol ymgyrch genedlaethol i ddenu ac i recriwtio unigolion i swyddi ym maes gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant ac i gadw unigolion yn y maes.
- Darparu adnodd yn y rhanbarth er mwyn hyrwyddo gyrfaoedd mewn gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant yn barhaus.
Byddwch chi'n aelod o garfan agos ac yn cael cyfle unigryw i weithio mewn ystod o ganolfannau yn y sefydliad a chydag asiantaethau partner. Bydd disgwyl i chi godi ymwybyddiaeth am ofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant ac amlygu'r llwybrau gyrfaoedd cysylltiedig mewn ysgolion, colegau, lleoliadau addysg uwch, yr Adran Gwaith a Phensiynau ac ymysg rhanddeiliaid allweddol eraill.
Bydd gofyn i chi feddu ar gymhwyster cydnabyddedig, perthnasol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol neu'r blynyddoedd cynnar fel sydd wedi'i nodi yn Fframwaith Cymhwyso Gofal Cymdeithasol Cymru a bod â thair blynedd o brofiad ôl-gymhwyso mewn gofal cymdeithasol/blynyddoedd cynnar a gofal plant. Bydd gyda chi brofiad o gynllunio a rhoi prosiectau ar waith.
Bydd gyda chi wybodaeth gadarn am bolisi ac arferion cyfredol mewn perthynas â gwasanaethau i blant a'r gwasanaethau oedolion, a bydd gyda chi sgiliau cyfathrebu, rhwydweithio a gweithio mewn carfan ardderchog.
Mae'n bosibl y bydd modd ystyried y cyfle yma yn gyfle secondiad i staff mewnol cyn belled â bod pob rheolwr yn cytuno ar hynny.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.