Gweld swydd wag -- Warden Cymunedol
WARDEN CYMUNEDOL
Mae'r Cyngor yn cyflwyno gwasanaeth Wardeiniaid Cymunedol newydd ledled Rhondda Cynon Taf.
Mewn gwisg swyddogol ar gyfer y swydd, bydd y Wardeiniaid Cymunedol yn bresenoldeb proffesiynol yn cadw llygad ar ein cymunedau. Byddan nhw yno i gynnig cymorth a chysur ac yn fodd effeithiol o roi gwybod am achosion i'r heddlu a gwasanaethau statudol eraill.
Bydd y Wardeiniaid yn cysylltu ystod o wasanaethau'r Cyngor megis Gorfodi Amgylcheddol a Gwasanaethau Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) ac yn gweithio gydag Aelodau Etholedig.
Byddan nhw hefyd yn gweithio ar y cyd ag asiantaethau a sefydliadau allanol, gan gynnwys y sefydliadau sy'n rhan o'r Bartneriaeth Cymunedau Diogel: yr Heddlu; Bwrdd Iechyd, Gwasanaeth Prawf; Gwasanaeth Tân ac ati.
Bydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus weithio ar sail rota shifftiau 7 niwrnod sy'n cynnwys gweithio oriau anghymdeithasol ar eu pen eu hunain. Rhaid iddyn nhw fod yn y wisg swyddogol tra'u bod nhw ar ddyletswydd.
Bydd prif swyddogaethau a dyletswyddau Warden Cymunedol yn cynnwys:
- Darparu gwasanaeth patrolio gweladwy yng nghanol trefi, parciau ac ardaloedd prysur eraill, rhoi gwybod am unrhyw achosion a phryderon diogelu i bartneriaid.
- Ymgysylltu â thrigolion lleol yn rhan o fentrau diogelwch cymunedol a gweithio gyda'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid i hyrwyddo gweithgareddau i ddifyrru pobl ifainc.
- Dosbarthu Hysbysiadau Cosb Benodedig ar gyfer troseddau amgylcheddol beunyddiol gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i ollwng sbwriel a gadael baw ci er mwyn cefnogi Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus y Cyngor.
Mae'r swyddi'n ddibynnol ar wiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Am ragor o wybodaeth ffoniwch Tim Jones, Rheolwr Gorfodi ac Ymwybyddiaeth Amgylcheddol ar (01443) 827710.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Mae'r swydd hon wedi'i hysbysebu'n ddiweddar, nid oes angen i ymgeiswyr blaenorol wneud cais.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.