Gweld swydd wag -- Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Dyma gyfle cyffrous i arwain gwaith gweithredu, monitro ac adolygu Strategaethau Cyfathrebu, Ymgysylltu a Chyfranogi Bwrdd Diogelu Cwm Taf.
A chithau'n aelod o Uned Busnes y Bwrdd, byddwch chi'n arwain ar gamau gweithredu i hyrwyddo diogelu ledled Cwm Taf, gan nodi cyfleoedd i gynnwys plant, pobl ifainc ac oedolion yng ngwaith y Bwrdd.
Bydd gyda chi brofiad o ddefnyddio dulliau effeithiol o gyfathrebu ac ymgysylltu â'r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol, a bydd gyda chi wybodaeth ardderchog o ddefnyddio ystod o systemau TG i reoli a rhannu gwybodaeth.
Am sgwrs anffurfiol, ffoniwch Nicola Kingham ar 01443 484550.
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.