Gweld swydd wag -- Cynorthwy-ydd Swyddfa Docynnau a Gwerthu
Mae Gwasanaeth Celfyddydau RhCT eisiau penodi Cynorthwy-ydd Swyddfa Docynnau a Gwerthu i weithio'n achlysurol yn Theatr y Parc a'r Dâr.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gwerthu tocynnau ar gyfer ystod o achlysuron yn Theatrau RhCT, yn ogystal â chynorthwyo â dyletswyddau marchnata'r celfyddydau a mentrau ehangu’r gynulleidfa. Rydyn ni eisiau penodi person cyfeillgar sydd â sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid rhagorol.
Mae profiad yn ddymunol ond byddwn ni'n rhoi hyfforddiant i ymgeiswyr sy'n arddangos awydd i weithio yn y celfyddydau, sydd ag agwedd gadarnhaol ac sydd â gwybodaeth o egwyddorion gwasanaeth i gwsmeriaid rhagorol. Bydd gofyn i chi weithio gyda'r nos, ar benwythnosau a gwyliau'r banc.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd yma, anfonwch e-bost i Andrea Beecham, Swyddog Gwerthu Tocynnau'r Theatr a Chynulleidfaoedd: andrea.d.beecham@rctcbc.gov.uk
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.