Gweld swydd wag -- Uwch Beiriannydd Diogelwch Tomenni

Penseiri, Peirianwyr a Thirfesurwyr
Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen
Priffyrdd a Gofal y Strydoedd
Gradd 11
£36,371
Amser Llawn Parhaol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn recriwtio i lenwi swyddi yn y Garfan Diogelwch Tomenni sydd newydd ei sefydlu. 

Mae'r canolbwynt yn ôl ar ein hetifeddiaeth mwyngloddio ar ôl y tirlithriadau mewn tomenni gwastraff pyllau glo yn y fwrdeistref yn ystod 2020. Mae gwaith rheoli a chynnal tomenni yn newid yng Nghymru er mwyn sicrhau gwytnwch yn ein tirwedd. Mae'n gyfle i gymryd rhan mewn gwaith rheoli tomenni, y fethodoleg a'r arferion archwilio, dadansoddi geodechnegol a threfnu'r gwaith cynnal a chadw a gwaith mawr ar domenni.

Rydyn ni'n chwilio am ymgeiswyr rhagorol i arwain mewn gwaith rheoli diogelwch tomenni ar gyfer CBSRhCT yn ne ddwyrain Cymru. Mae'r swyddi canlynol ar gael:

  • Rheolwr Diogelwch Tomenni
  • Prif Beiriannydd Diogelwch Tomenni
  • Uwch Beiriannydd
  • Arolygwyr
  • Technegydd

Pe hoffech chi drafod unrhyw un o’r swyddi, ffoniwch Jacqueline Mynott, Pennaeth Rheoli Asedau Isadeiledd ar (01443) 281108.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadaeth rywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Sardis House
Sardis Road
Pontypridd
CF37 1DU
22 Awst 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.