Gweld swydd wag -- Rheolwr Contractau a Chyflawniad

Rheoli
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Ymyrraeth Tymor Byr i Oedolion
Gradd 11
£36,371
Amser Llawn Parhaol

Mae Vision Products yn fusnes sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid ac yn darparu cyflogaeth â chymorth i bobl sydd â lefelau amrywiol o anabledd. Mae dros 60% o'r staff yn cael eu hystyried yn bobl sydd ag anabledd. Mae Vision Products yn cyflenwi cyfarpar cymuned – cyfarpar newydd a chyfarpar sydd wedi'i adnewyddu ar y safle, i'r gymuned leol, yn ogystal â chynhyrchu ffenestri PVCu, darparu technoleg gynorthwyol a gofalu am offer. Mae hefyd yn darparu gwasanaeth cyfarpar diogelu personol yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.

Rydyn ni'n dymuno penodi Rheolwr Contractau a Chyflawniad. Bydd deiliaid y swydd yn rheoli'r garfan busnes ac yn gweithio gyda charfanau eraill i gefnogi tyfiant a datblygiad y busnes, cyflawni ystod o gynlluniau a phrosiectau a chefnogi elfennau gweithredol y busnes. 

A chithau'n rheolwr, byddwch chi'n unigolyn profiadol sydd â'r gallu i gefnogi'r broses o ddarparu ystod eang o wasanaethau amrywiol mewn busnes â chymorth. Bydd disgwyl ichi gydbwyso anghenion y carfanau amrywiol rydyn ni'n eu cyflogi a'u cefnogi wrth ichi sicrhau bod y busnes yn cyrraedd ei nodau a gofynion contractau. Rydyn ni am benodi unigolyn deinamig sydd â'r profiad, cymhelliant a'r gallu i ymgymryd â dyletswyddau'r rôl yma. Mae'r dyletswyddau'n cynnwys: 

  • Coladu a gwerthuso data cyflawniad a data ystadegol ar gyfer gwasanaethau Vision Products.
  • Cynorthwyo â'r broses o ddatblygu cyfleoedd busnes newydd a chyffrous.
  • Sicrhau bod gofynion contractau, gan gynnwys prosesau tendro a PPQs, yn cael eu cyflawni.
  • Dogfennu ac archwilio safonau ansawdd megis ISO9001:2015, ac adrodd arnyn nhw.
  • Llunio adroddiadau gweithgaredd a chyflawniad gan ddefnyddio ystod o systemau TGCh.

Mae manylion holl ddyletswyddau'r rôl yn y disgrifiad swydd.

Bydd rhaid i chi feddu ar gymhwyster rheoli a bod â phrofiad o reoli staff, gweithio ar dendro, rheoli contractau a monitro. Mae rhestr lawn o'r gofynion hanfodol wedi'u nodi yn y fanyleb person.

Byddwch chi'n gweithio yn unol â pholisi gweithio hyblyg y Cyngor, a bydd disgwyl i chi weithio yn y swyddfa o dro i dro yn ogystal â meddu ar y gallu i fanteisio ar weithio hyblyg. Bydd angen cytuno ar y manylion gyda'r rheolwr llinell.

Os oes gyda chi ddiddordeb yn y rôl amrywiol yma ac o'r farn bod modd ichi wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl a busnes Vision Products, e-bostiwch Nia Hasset-Rees – Rheolwr Busnes: Nia.Hasset-Rees@rctcbc.gov.uk.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Vision Products
Coedcae Lane
Pontyclun
CF72 9HG
14 Medi 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.