Gweld swydd wag -- Cynorthwy-ydd Gofal/Cynnal Cartref - Swydd Achlysurol
Rydyn ni'n chwilio am staff achlysurol i gyflenwi ar ran gweithwyr parhaol. Bydd gofyn eich bod chi ar gael ar fyr rybudd i weithio yn ystod yr wythnos, dros y penwythnos a gyda'r nos.
Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys gorchwylion cyffredinol yn ymwneud â chynnal cartref, gwaith cegin a gofal personol preswylwyr a defnyddwyr gwasanaeth.
Byddwch chi'n deall beth ydy anghenion y to hŷn. Byddai profiad o weithio gyda phobl hŷn neu dreulio amser yn eu cwmni o fantais.
O’ch penodi, byddwch chi'n cael cymorth trwy fframwaith sefydlu – rhaglen yw hon gyda’r nod o’ch paratoi chi ar gyfer eich swydd newydd.
I fodloni gofynion Deddf Safonau Gofal mewn perthynas gweithio twrn (sifftiau), mae rhaid ichi fod dros 18 oed.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Tania Gibson ar 01443 685944.
BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.