Gweld swydd wag -- Gweithiwr Cymdeithasol / Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol – Carfan Anableddau Dysgu – Y Gorllewin

Gwaith Cymdeithasol
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion
Gradd 11
£38,296 / £41,496 (Gradd 12) ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Profiadol
Amser Llawn Parhaol

Mae'n dda gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gynnig swydd Gwaith Cymdeithasol yn rhan o'i Wasanaethau Gofal Cymdeithasol.

Rydyn ni'n awyddus i benodi Gweithiwr Cymdeithasol brwdfrydig i ymuno â'r Garfan Anableddau Dysgu – Y Gorllewin yn Rhondda Cynon Taf, sydd â'i swyddfa yn Nhŷ Elái, Trewiliam, Cwm Rhondda.

Yn rhan o Raglen Trawsnewid darpariaeth Anableddau Dysgu yn Rhondda Cynon Taf, bydd dwy garfan Anableddau Dysgu benodedig yn cael eu sefydlu. Mae hyn yn gyfle cyffrous i ymuno â'r Garfan Anableddau Dysgu – Y Gorllewin fydd yn darparu cymorth i bob oedolyn sydd ag anabledd dysgu cydnabyddedig sy'n byw yn ardal orllewinol Rhondda Cynon Taf. 

Mae'r garfan yn dilyn model ataliol sy'n seiliedig ar gryfderau ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, o dan egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Mae gan y Garfan bwyslais ar waith aml-asiantaeth a bydd disgwyl i chi weithio'n agos gyda chydweithwyr o'r maes iechyd a nifer o asiantaethau eraill. Rydyn ni hefyd yn gweithio yn unol ag egwyddorion Deddf Galluedd Meddyliol 2005, gan ymarfer yn aml o fewn cylch gorchwyl Budd Gorau ar gyfer unigolion nad oes ganddyn nhw'r galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain. Gall hyn gynnwys gwneud ceisiadau i’r Llys Gwarchod.

Mae aelodau'r garfan yn gweithio’n hyblyg ac o'r swyddfa yn Nhŷ Elái, Trewiliam, Rhondda.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael goruchwyliaeth reolaidd un-wrth-un yn ogystal â goruchwyliaeth gan gyfoedion. Mae gyda phob un o'n hymarferwyr gyfle i ddylanwadu ar ein gwaith wrth iddyn nhw ddatblygu. Maen nhw'n cael cymorth gan garfan reoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol.

Rydyn ni'n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un heriol, yn broffesiynol ac yn bersonol, a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Ar hyd y blynyddoedd diwethaf, mae ein Hadrannau Gofal Cymdeithasol wedi elwa yn sgil buddsoddiad cynhwysfawr a sylweddol. Yn sgil hyn, rydyn ni wedi cryfhau'n gwasanaethau ataliol gan anelu at leihau'r pwysau ar y rheng flaen.  

O'ch penodi, byddwch chi'n elwa ar lwybr gyrfa gwell ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes Gwaith Cymdeithasol, a phecyn buddion, sy'n cynnwys gweithio hyblyg, pris gostyngol ar gyfer aelodaeth Hamdden am Oes a chyfle i fanteisio ar y cynlluniau prynu sef 'Beicio i'r Gwaith' a 'Let's Connect'.

I'r sawl sy'n dechrau eu gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol, byddwch chi'n cael cefnogaeth i ddilyn ein rhaglen gymorth i gyfoedion yn eich blwyddyn gyntaf fel ymarferydd. Nod y rhaglen yma yw lleihau'r bwlch rhwng ennill cymhwyster a rhoi hynny ar waith yn ymarferol.

Rydyn ni'n disgwyl i'n swyddogion feddu ar ddealltwriaeth gadarn o oblygiadau gweithredol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a deddfwriaeth berthnasol arall. Rhaid ichi fod yn effro i'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion newydd a rhaid ichi fod wedi gweithio ym maes gofal plant, neu feddu ar ddiddordeb mewn gwneud hynny. Byddwch chi wedi'ch ymroi i ymarfer nad yw'n ormesol, a bydd gyda chi sgiliau asesu, cyfathrebu a chynllunio cadarn.

O'ch penodi i'r swydd, byddwn ni'n disgwyl i chi reoli llwyth achosion penodol wrth feithrin a chynnal cysylltiadau ag asiantaethau partner. Mae rhaid i chi feddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol proffesiynol cydnabyddedig. O'ch penodi i'r swydd, bydd disgwyl i chi gofrestru'n Weithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Os byddwch chi'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, bydd raid ichi gadarnhau a ydych chi'n gwneud cais am swydd Gweithiwr Cymdeithasol (GR11) neu Weithiwr Cymdeithasol Profiadol (GR12) cyn y cyfweliad.  Bydd disgwyl i'r rheiny sy'n ymgeisio am swydd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol fod yn barod i ddarparu tystiolaeth o'u cofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru a 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso yn eu cyfweliad.

Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol, cysylltwch ag Elen Fletcher (Rheolwr y Garfan) drwy ebostio Elen.W.Fletcher@rctcbc.gov.uk neu drwy ffonio (01443) 570010. 

Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf:

  • Trefniadau Gweithio Hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
  • Cyfleoedd datblygu gyrfa ardderchog
  • Cynllun pensiwn arbennig gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
  • Cymorth a chyngor iechyd galwedigaethol
  • Cynllun buddion i staff
  • Cerdyn gostyngiadau 'Vectis'

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn ac sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Ty Elai
Williamstown
Tonypandy
CF40 1NY
20 Chwefror 2023
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.