Gweld swydd wag -- Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol Arweiniol

Rheoli
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Trawsnewid
Gradd 10
£34,723
Amser Llawn Parhaol

Mae'r Garfan Cymwysterau Galwedigaethol am benodi Swyddog Sicrhau Ansawdd / Asesu Arweiniol Mewnol. Bydd y swydd yma'n un barhaol. Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys arwain a rhoi cymorth i garfan brofiadol, fach, o Aseswyr Gofal Plant wrth gyflawni  cymwysterau galwedigaethol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc).

Mae'r swyddogaeth yma'n allweddol o ran cynnal targedau ar gyfer cymwysterau y maes Gwasanaethau Gofal Plant wedi'u rheoleiddio gan gynnwys gofal preswyl a maeth. Mae'r garfan yn ymateb i ofynion ar gyfer y cymhwyster ar draws carfanau Rheoli Gofal Aseswyr, Carfan Plant Anabl, Carfan Gyswllt, Ymyrraeth Frys ac amrywiaeth o Garfanau Prosiect eraill yn y Gwasanaethau i Blant. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus allu dangos dealltwriaeth o Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan (AWIF) a gallu datblygu a rhannu adnoddau i roi'r AWIF ar waith mewn modd ymarferol.

Mae nifer o sgiliau sy'n ofynnol ar gyfer y swydd yma.

  • Byddwch chi'n gallu dangos eich bod chi'n gallu arwain ac ysgogi eich carfan trwy adnabod a gweithio gyda'r sgiliau a'r profiadau sydd gan aelodau o'r garfan yn barod a'u cynorthwyo nhw i ddatblygu ymhellach.
  • Bydd y gallu gyda chi i gyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth o bobl, sy'n rhan o'r sefydliad a'r tu allan iddo, a bydd eich profiad a'ch cymwysterau yn sail i'ch hygrededd.
  • Byddwch chi'n gallu dangos eich bod chi'n gallu rheoli sgyrsiau heriol pan fydd rhaid gwneud penderfyniadau.

Mae croesawu newid yn rhinwedd angenrheidiol a bydd gofyn i chi ddangos sut rydych chi wedi llwyddo i weithredu mentrau mewn ffordd gadarnhaol â phobl. Mae'r Garfan Cymwysterau Galwedigaethol yn ymfalchïo yn ei hagenda gwelliant parhaus. Bydd gofyn i chi ddangos sut rydych chi'n gallu cyfrannu at adolygu rhaglenni cymwysterau ac amlygu ffyrdd o wella. Bydd hefyd gyda chi'r gallu i weithio gydag oedolion sy'n dysgu a bydd gyda chi'r sgiliau angenrheidiol i helpu'ch carfan i ddiwallu anghenion dysgu a datblygu'r unigolyn.

Bydd gyda chi un o'r cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc). Edrychwch ar y disgrifiad swydd a'r Fanyleb Person. Os ydych chi'n gweithio tuag at eich cymhwyster Hyfforddi, Asesu, Sicrhau Ansawdd (‘TAQA’) mewn Asesu Ansawdd Mewnol, byddwch chi'n cael eich cynorthwyo i'w gwblhau o fewn chwe mis o ddechrau'r swydd.

Yn ogystal â hyn, byddwch chi'n gallu dangos profiad o weithio mewn lleoliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi'u rheoleiddio gyda Phlant a Phobl Ifainc. Bydd y profiad yma'n cynnwys goruchwylio a/neu reoli carfan o ymarferwyr gofal plant. Byddai profiad o weithio gyda phlant a phobl ifainc yn rhan o wasanaethau i blant sy'n derbyn gofal yn ddymunol iawn.

Mae'r Ganolfan Asesu wedi cael adolygiadau sicrwydd ansawdd rhagorol yn gyson a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus â rhan flaenllaw wrth baratoi a chydlynu'r digwyddiadau yma. Byddwch chi'n gweithio yn rhan o Garfan Cymwysterau Galwedigaethol gefnogol a deinamig, sy'n cynnwys grŵp o Aseswyr a Phrif Swyddogion Sicrhau Ansawdd Mewnol. Mae'r Garfan Cymwysterau Galwedigaethol yn rhan o'r Gwasanaeth Dysgu a Datblygu Gofal Cymdeithasol.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn sefydliad mawr ac mae'n cynnig cyfle i ddatblygu gyrfa. Mae angen dull gweithio oriau hyblyg oherwydd natur y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig i blant a phobl ifainc. Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithredu Cynllun Oriau Hyblyg yn rhan o'r telerau cyflogaeth ar gyfer y swydd yma. Fe gewch chi, hefyd, eich ad-dalu am gostau teithio sy’n deillio o’ch dyletswyddau.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd yma, cysylltwch â rheolwr y Ganolfan Cymwysterau Galwedigaethol, Jillian Davies, ar 07932540737; Paul Aubrey, Swyddog Sicrhau Ansawdd Arweiniol ar 07824541761 neu Dawn Moulden, Swyddog Sicrhau Ansawdd Arweiniol ar 07747485753.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Rock Grounds
High street
Aberdare
CF447AE
15 Mawrth 2023
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.