Gweld swydd wag -- Cynorthwy-ydd Cegin Cyffredinol - Swydd Achlysurol mewn Ysgolion.

Arlwyo a Glanhau
Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant
Ysgolion yr 21ain Ganrif
Gradd 2
£10.79 yr awr
Gweithwyr Dros Dro

YN ÔL Y GALW

Amdanom ni...

Mae Gwasanaethau Arlwyo Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ymfalchïo yn yr hyn mae wedi'i gyflawni ac yn ei weithlu deinamig sy'n rhan o'r gwasanaeth arlwyo mewn ysgolion. Mae ein carfanau arlwyo ysgolion ni'n fedrus yn y ffordd maen nhw'n trawsnewid cynhwysion tymhorol i fod yn brydau bwyd poeth a maethlon, sy'n helpu i addysgu pobl ifainc i gefnogi ffyrdd iachach o fyw.

Am y rôl...

Ar hyn o bryd, rydyn ni eisiau cynyddu'n gweithlu achlysurol trwy benodi unigolion brwd a hyblyg i gyflenwi ar gyfer staff parhaol yn ardaloedd Cwm Rhondda, Cwm Cynon a Thaf-elái.  Bydd dyletswyddau arlwyo ysgolion yn cynnwys gwahanol elfennau o baratoi a gweini bwyd, yn ogystal â golchi llestri a glanhau mewn amgylchedd cegin prysur. Mae'r gwasanaeth yma'n gweithredu yn ystod y tymor yn unig, o ddydd Llun tan ddydd Gwener gydag oriau gwaith yn amrywio o 9.00am tan 2.00pm.

Amdanoch chi...

Mae angen staff achlysurol i weithio ar adegau pan fydd staff parhaol yn absennol o'r gwaith.  I fod yn llwyddiannus yn y rôl yma, rhaid i chi feddu ar y nodweddion canlynol:-

  • Rhaid i chi fod yn frwdfrydig ac yn ddibynadwy
  • Ar gael i weithio ar fyr rybudd
  • Meddu ar fedrau cyfathrebu da
  • Gwybodaeth am ddiogelwch bwyd ac arferion hylendid
  • Y gallu i ddilyn cyfarwyddiadau         

Rhaid i bob ymgeisydd achlysurol feddu ar dystysgrif diogelwch bwyd – Lefel 2, neu barodrwydd i weithio tuag at hynny. Am ragor o wybodaeth ac am sgwrs anffurfiol ynglŷn â'r swyddi, ffoniwch Reolwr y Garfan ar (01443) 281141.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

Yn ôl y galw
Various Schools across RCT
Various Schools across RCT
Various Schools across RCT
Various Schools across RCT
3 Mawrth 2023
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.