Gweld swydd wag -- Gweithiwr Cymdeithasol / Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol - Timau Ymyrraeth Dwys

Gwaith Cymdeithasol
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 11
£38,296 / £41,496 (Gradd 12) Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol
Amser Llawn Parhaol

Gweithiwr Cymdeithasol

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gynnig swyddi Gwaith Cymdeithasol o fewn ein Carfanau Ymyrraeth Ddwys (y Dwyrain a'r Gorllewin, 1,2,3).

Rydyn ni hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr blwyddyn olaf a fydd yn cymhwyso yn ddiweddarach eleni.

(Gradd 11 - £38,296)  Gweithiwr Cymdeithasol ar y Radd Gychwynnol a Chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Gradd 12 (£41,496) Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol ~ o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae'r holl staff yn ein Carfanau Ymyrraeth Ddwys (y Dwyrain a'r Gorllewin, 1,2,3) yn gymwys i dderbyn atodiad y farchnad o £2000.00. Mae hyn waeth beth fo hyd y profiad ôl-gymhwyso a chaiff ei adolygu ym mis Mai 2023. Bydd y taliad yma'n cael ei dalu'n fisol ar sail pro rata.

Y Carfanau

Carfanau Ymyrraeth Ddwys (y Gorllewin a'r Dwyrain 1,2,3)

Mae ein carfanau Ymyrraeth Ddwys yn cynnig y cyfle i weithio gyda phlant ag ystod eang o anghenion, sy'n cynnwys plant sy'n destun cynlluniau gofal a chymorth, Plant sy'n Derbyn Gofal a'r rhai ym maes amddiffyn plant. Mae hyn yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwaith a dysgu. Rydyn ni wedi canolbwyntio ein hadnoddau i gefnogi gweithwyr cymdeithasol i ddarparu asesiadau, cynlluniau a gwaith uniongyrchol o ansawdd uchel, i wella'r profiad i blant ac i sicrhau gwell deilliannau iddyn nhw.

Ein Cynnig i Chi

Tra eich bod chi'n gweithio i Wasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf, bydd gyda chi fynediad at ystod eang o fuddion staff, yn ogystal ag ystod eang o gyfleoedd i ddysgu a datblygu.  Rydyn ni hefyd eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau ein bod ni'n amddiffyn eich lles, a bod gyda chi gydbwysedd gwaith/bywyd da. Mae pob un o'n hymarferwyr yn cael cymorth carfan rheoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol. Byddwch chi'n rheoli llwyth achosion diffiniedig wrth adeiladu a chynnal cysylltiadau ag asiantaethau partner. Rydyn ni hefyd yn cynnig cyfleoedd goruchwylio ardderchog.

Mae buddion eraill i staff yn cynnwys:

  • Yr hawl i ofyn am weithio hyblyg ac mae gyda ni bolisïau cefnogol ar gyfer rhieni sy'n cynnwys tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth uwch. Rydyn ni hefyd yn gweithio mewn ffordd hyblyg, sy'n eich galluogi chi i weithio gartref neu yn y swyddfa.
  • Mynediad i'n Huned Iechyd Galwedigaethol a CARI, ein hofferyn lles cyfrinachol digidol newydd.
  • 26 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth. Mae cyfle hefyd i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 10 diwrnod (pro rata) y flwyddyn.
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) hael.
  • Defnydd o'n Canolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygu Proffesiynol Parhaus.
  • Rydyn ni hefyd yn datblygu rhaglen i gefnogi lles ymarferwyr yng Ngwasanaethau i Blant RhCT, gyda’r ffocws ar feithrin carfanau cydnerth a chefnogol.

Mae buddion ychwanegol ledled y Cyngor yn cynnwys ein cynllun Beicio i'r Gwaith, aelodaeth HamddenAmOes am bris gostyngol a cherdyn Vectis sy'n rhoi prisiau gostyngol i staff.

Dyma rai o’r buddion sydd gyda ni i’w cynnig. Edrychwch ar ein tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer Gwasanaethau i Blant am ragor o wybodaeth ynghylch pam y dylech chi ddewis gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol yn RhCT.

www.rctcbc.gov.uk/childrensservicesjobs  

Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol Blwyddyn Olaf

Mae gan RCT hanes llwyddiannus a phrofedig o gefnogi nifer fawr o fyfyrwyr ar bob lefel. Mae myfyrwyr blwyddyn olaf sy'n llwyddiannus mewn cyfweliad yn cael cynnig y cyfle i gael eu cyflogi yn  Rheolwyr Materion Asesu Gofal dros dro o'r cyfle cyntaf hyd nes bod eu cofrestriad wedi'i gwblhau.  Yn ogystal â hynny, rydyn ni'n deall bod modd i'r cyfnod trosglwyddo o astudiaethau i gyflogaeth fod yn brysur, ac felly mae modd i'r oriau cyn dechrau swydd yn weithiwr cymwysedig fod yn hyblyg i weddu i anghenion yr unigolyn. Rhowch gynnig arni!

Gan ein bod ni’n awdurdod lleol mawr ac yn profi trosiant naturiol, rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr blwyddyn olaf Gweithiwr Cymdeithasol sy’n gymwys o hyn tan haf 2023.

Am ragor o wybodaeth am ein swyddi gwag presennol neu i drefnu trafodaeth anffurfiol defnyddiwch ein ffurflen ymholiad am swydd wag Gwasanaethau i Blant https://customerportal.rctcbc.gov.uk/ChildrensServicesContactForm

Gwybodaeth Ychwanegol 

Os byddwch chi'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, bydd rhaid ichi gadarnhau a ydych chi'n gwneud cais am swydd Gweithiwr Cymdeithasol (GR11) neu Weithiwr Cymdeithasol Profiadol (GR12) cyn y cyfweliad.  Bydd disgwyl i'r rheiny sy'n ymgeisio am swydd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol fod yn barod i ddarparu tystiolaeth eu bod nhw wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso ym maes gwaith cymdeithasol yn eu cyfweliad.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadaeth rywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

 

 

37
East Office / West Office
Ty Trevithick / Tonypandy
Abercynon / Rhondda
CF45 4UQ / CF40 2HH
12 Ebrill 2023
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.