Gweld swydd wag -- Cynorthwyydd Gweinyddol

Gweinyddol a chlerigol
Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant
Consortiwm Canolbarth y De y Gwasanaeth Addysg ar y Cyd
Gradd 6
£24,054
Amser llawn dros dro

Consortiwm Canolbarth y De – Gwasanaeth Addysg ar y Cyd 

Grymuso ysgolion i wella delliannau ar gyfer pob dysgwr

CYNORTHWYYDD GWEINYDDOL

SECONDIAD 1 FLYNEDD NEU GYTUNDEB DROS DRO 1 FLYNEDD

CYFLOG: GradD 6 (£24,054)

Mae Consortiwm Canolbarth y De (CCD), sy'n cynnwys pum Awdurdod Lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, a Bro Morgannwg, yn gweithio mewn partneriaeth i gyflawni trefniadau uchelgeisiol ar gyfer gwella ysgolion trwy Her Canol De Cymru. Ar y cyd â’n hysgolion, rydym yn benderfynol y bydd pob plentyn a person ifanc ym mhob ysgol yn profi tegwch a rhagoriaeth a’r amodau gorau posib i wireddu eu potensial a’n bod yn cau’r bwlch rhwng y disgyblion mwyaf di-freintiedig a’u cyfoedion.

Rydym yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Gweinyddol profiadol i ymuno â’n Tîm Cymorth Busnes. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu cefnogaeth weinyddol effeithiol, yn unol â’n Cynllun Busnes a chyfarwyddyd uwch reolwyr. Yn ogystal â hynny, bydd disgwyl i chi ddarparu cefnogaeth i'r tîm cyllid i gynnal a phrosesu gwybodaeth reoli ariannol gywir ac amserol yn unol â'r holl reoliadau ariannol a chaffael.  Mae natur y rôl yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd fod yn rhagweithiol er mwyn ymdopi â sawl tasg ar yr un pryd a chadw at derfynau amser tynn.

Croeso i ddarpar ymgeiswyr gysylltu ag Alyson Price, Rheolwr Busnes am sgwrs anffurfiol Alyson.b.price@cscjes.org.uk

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION SY’N AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I GONSORTIWM CANOLBARTH Y DE A’R CYNGOR  

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+. 

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg. 

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. 

37
Valleys Innovation Centre
Navigation Park
Abercynon
CF45 4SN
15 Chwefror 2023
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.