Gweld swydd wag -- Swyddog Glanhau Data (Cyfnod Penodol o 2 flynedd)

Gweinyddol a chlerigol
Prif Weithredwr
Gwasanaethau Cyllid a Digidol
Gradd 6
£24,054
Cyfnod Penodol

Cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2024 gyda'r posibilrwydd o gael ei ymestyn y tu hwnt i'r dyddiad yma.

Dyma gyfle i ddau unigolyn brwdfrydig a chryf eu cymhelliad ymuno â Charfan Glanhau Data Cenedlaethol System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (SWGCC)

Mae'r Garfan Glanhau Data Cenedlaethol yn rhan o Garfan ehangach (Carfan Ranbarthol SWGCC Cwm Taf Morgannwg – CRS) a bydd yn gyfrifol am gyflawni'r prosiect Glanhau Data Cenedlaethol yn llwyddiannus. Prif nod y garfan yw gwella ansawdd a chywirdeb yr wybodaeth a gedwir o fewn SWGCC (System CareDirector) drwy leihau'r nifer o gopïau dyblyg. Yn ogystal â hyn, byddwch chi'n cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflwyno sesiynau hyfforddi a gwybodaeth gyda'r nod o leihau nifer y cofnodion dyblyg newydd a gaiff eu creu.

Byddwch chi'n cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r prosiect Glanhau Data Cenedlaethol ar ran pob rhanbarth ledled Cymru, a hynny dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth Rheolwr Cymorth Systemau Rhanbarthol CRS. 

Canolfan Hamdden Rhondda Fach fydd prif ganolfan y garfan, fodd bynnag, mae trefniadau gweithio hybrid ar waith ar hyn o bryd sy'n golygu gweithio o gartref am gyfran sylweddol o'r amser.

A chithau'n Swyddog Glanhau Data, byddwch chi'n chwarae rôl allweddol yn y prosiect, ac o ganlyniad, bydd disgwyl i chi ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau. Bydd y prif ddyletswyddau'n cynnwys:

  • Gweithio i feini prawf a rhestri y cytunwyd arnyn nhw; ymchwilio a datrys cofnodion/cleientiaid dyblyg ar y system
  • Cefnogi datblygiadau, cyfathrebiadau a hyfforddiant perthnasol sydd wedi'u hanelu at hyrwyddo arferion gorau a lleihau'r achosion ble caiff cofnodion/cleientiaid dyblyg eu creu yn y system.

Rydyn ni'n edrych am unigolion i ymuno â'n carfan sy'n meddu ar sgiliau TGCh da, sy'n drefnus, yn fanwl gywir ac sydd â'r awydd i lwyddo. 

I gael rhagor o fanylion am y swydd, yn enwedig am gymwysterau a phrofiad, edrychwch ar y disgrifiad swydd a'r fanyleb person sydd ar gael.

Am sgwrs anffurfiol am y cyfle yma, ffoniwch Simon Ogston, Rheolwr Cymorth Systemau Rhanbarthol, ar 07384919345.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Rhondda Fach Sports Centre/Agile/Home Working
East Street
Tylorstown
CF43 4HR
27 Chwefror 2023
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.