Gweld swydd wag -- Arweinydd Seiberddiogelwch

TGCh a Thelegyfathrebu
Prif Weithredwr
Gwasanaethau Cyllid a Digidol
Gradd 14
£55,000
Amser Llawn Parhaol

Rydyn ni am recriwtio unigolyn allweddol i lywio ein mentrau Seiberddiogelwch a sicrhau ein diogelwch a'n cydymffurfiad. Mae'r rôl yma'n allweddol i helpu i ddiffinio ein cyfeiriad digidol yn y dyfodol, dylanwadu ar ein rhanddeiliaid, a chynyddu lefelau Seiberddiogelwch yn y Gwasanaethau TGCh ac ym mhob rhan o'r Cyngor. Ein bwriad yw darparu'r atebion gorau o ran diogelwch i ganiatáu gwella gwasanaethau a chefnogi darparu ein gwasanaethau mewn ffordd ddiogel, effeithlon ac effeithiol.

Bydd y swydd newydd yma yn rhoi cyfle i chi weithio yn rhan o'n carfan sy'n arwain rhaglenni trawsnewidiol cyffrous a fydd yn cyflawni ein blaenoriaethau ar ran y Cyngor. Mae arnom angen arweinydd Seiberddiogelwch uchelgeisiol, arloesol ac effeithiol ac arbenigwr mentrau technoleg diogelwch medrus iawn i ymuno â'r garfan fel Arweinydd Seiberddiogelwch.

Gan arwain a gweithio mewn carfanau cydweithredol, amlddisgyblaethol, byddwch â phrofiad dylunio Seiber ar raddfa fawr, byddwch wedi darparu sicrwydd ansawdd ac wedi darparu atebion bwrdd gwaith modern i ddefnyddwyr. Bydd gyda chi dystiolaeth o'ch profiad o drosi gofynion cymhleth yn ddyluniadau diogelwch a byddwch wedi profi atebion a fydd yn ein galluogi i drawsnewid ein systemau busnes a TGCh yn effeithiol.

Bydd modd i'r ymgeisydd delfrydol gynnig enghreifftiau o adegau y mae wedi datblygu strategaethau ar gyfer darparu amddiffyniad Seiberddiogelwch ac ymdrin â fframweithiau cydymffurfio. Mae'r fframweithiau allweddol yn cynnwys Cyber Essentials a Cyber Essentials +, yn ogystal â PSN, BACS a PCI. Dylai sgiliau technoleg gwybodaeth yr unigolyn llwyddiannus gynnwys Waliau Tân, amddiffyniad EndPoint, Diogelwch Rhwydwaith, atebion cysylltedd fel VPN ac atebion o ran Hylendid E-byst. Mae hyn yn allweddol i'r rôl wrth i ni newid ein gwasanaethau, gan symud i arddulliau gweithio o bell a symud ein systemau i'r cwmwl.  

Rhaid i chi fod yn greadigol, meddu ar agwedd gadarnhaol a bod â phrofiad manwl o gyflawni prosiectau. Rhaid eich bod chi'n gyffyrddus wrth ddefnyddio technoleg a rhaid bod modd i chi herio syniadau traddodiadol a ffyrdd o feddwl yn llwyddiannus, yn ogystal â bod â'r gallu i ddarparu atebion technoleg diogel yn effeithiol ac arwain wrth wneud penderfyniadau ynghylch digwyddiadau.

Mae dull profedig o hunanddatblygiad yn allweddol mewn maes sy'n newid yn ddyddiol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus fod wedi ennill cymhwyster o'r diwydiant fel CISSP a/neu CISM.

 Yn y swydd yma byddwch chi'n gwneud y canlynol:

  • Cynnig gwybodaeth ragorol am fygythiadau seiber cyfredol a sut i'w lliniaru
  • Cynnig gwybodaeth dda o seilwaith a phensaernïaeth rhwydweithiau
  • Cyflwyno asesiad risg, gan ddadansoddi a rheoli digwyddiadau mewn ffordd ragweithiol
  • Cefnogi'r broses o ddatblygu atebion diogel i danategu Strategaeth Ddigidol y Cyngor, gan gynnwys arwain prosiectau penodol i effeithio ar newid
  • Arwain ar y broses o ddarganfod atebion diogelwch, cynhyrchu, dylunio a chomisiynu o fewn y Cyngor, gan gyflawni rôl yn yr Awdurdod Dylunio Technegol ar draws sawl maes technoleg sy'n darparu diogelwch cyfannol ar draws pentyrrau technolegol
  • Arwain yn y broses o ymateb i ddigwyddiadau a darparu arweiniad ar gyfer integreiddio atebion gan gynnwys Rhwydweithiau, Waliau Tân ac IDS, cleient / gweinydd, amddiffyniad endpoint, meddalwedd wrthfaleiswedd, hylendid ac apiau
  • Meddu ar wybodaeth helaeth am dechnolegau Seiberddiogelwch o fewn Pensaernïaeth Menter a bod â hanes profedig o ddarparu atebion diogelwch traws-dechnoleg lluosog
  • Tystiolaeth o brofiad o gynnal diogelwch mewn prosiectau a rhaglenni gwaith
  • Rhoi arweiniad a chymorth i'n carfanau er mwyn llywio datblygu sgiliau diogelwch yn y gwasanaeth

Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf:

  • Trefniadau gweithio hyblyg
  • Cyfleoedd datblygu gyrfa ardderchog
  • Cynllun pensiwn arbennig gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
  • Cymorth a chyngor iechyd galwedigaethol
  • Cynllun buddion i staff
  • Cerdyn gostyngiadau 'Vectis'

Mae croeso i ddarpar ymgeiswyr ffonio Emma Williams (Arweinydd Gwasanaeth – Pensaernïaeth Fenter) ar 07385 401980 new Emma.J.Williams@rctcbc.gov.uk i gael trafodaeth anffurfiol.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Rhondda Fach Sports Centre/Agile/Home Working
East Street
Tylorstown
CF43 4HR
23 Chwefror 2023
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.