Gweld swydd wag -- Ymarferydd Gofal a Chymorth

Gwaith Cymdeithasol
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion
Gradd 10
£34,723
Amser Llawn Parhaol

Dyma gyfle cyffrous i lenwi swydd Ymarferydd Gofal a Chymorth yng Ngwasanaethau i Oedolion.

Hoffen ni sicrhau bod ein gwasanaethau yn cynorthwyo pobl i gyflawni eu potensial llawn. Mae hyn yn golygu gweithio gyda phobl, er mwyn deall beth sy'n bwysig iddyn nhw a sut mae modd i ni helpu.

Rydyn ni'n chwilio am ymarferwyr brwdfrydig sydd ag agwedd gadarnhaol sy'n gallu gweithio gydag unigolion, teuluoedd a rhieni maeth yn unol â gofynion ac egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005. Rydyn ni'n chwilio am ymarferwyr sy'n rhoi'r unigolyn wrth galon eu gwaith.

O'ch penodi i'r swydd, byddwch chi'n ymgymryd ag asesiadau, llunio cynlluniau gofal â defnyddwyr gwasanaeth a'u cynhalwyr ac adolygu anghenion gofal a chymorth. Byddwch chi'n gweithio gydag unigolion sydd mewn sefyllfaoedd heriol ac anghenion cymhleth, felly mae'n hanfodol eich bod yn gallu rheoli perygl yn addas. Gan ddelio â llwyth gwaith eang, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn canolbwyntio ar fodel adferiad, a meddu ar y gallu i gydbwyso risg yn erbyn hunan-benderfyniad. Bydd yn ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel.    

Gan weithio fel rhan o garfan, ond hefyd yn annibynnol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau llafar ac ysgrifenedig rhagorol yn ogystal â bod yn hyddysg wrth ddefnyddio cyfrifiaduron. Bydd angen i chi fod yn drefnus, yn gryf eich cymhelliad ac yn gallu blaenoriaethu llwyth gwaith yn ogystal â bod yn greadigol ac yn ddyfeisgar. Bydd gyda chi gred cadarn mewn rhoi annibyniaeth i oedolion.

Caiff datblygiad proffesiynol ei annog a'i ddisgwyl yn RhCT. Mae gan y Cyngor adran hyfforddiant rhagorol sy'n cynnig cyfleoedd amrywiol i gymryd rhan mewn hyfforddiant sy'n berthnasol i swydd ymarferydd gofal a chymorth. Rydyn ni'n cynnig goruchwyliaeth broffesiynol yn rheolaidd ac yn ogystal â hynny, bydd cyfle gyda chi i ddod yn rhan o waith goruchwylio cymheiriaid mewn grŵp.

Yn ddelfrydol bydd gyda chi brofiad blaenorol o weithio ym maes rheoli gofal neu ofal cymdeithasol o fewn Gwasanaethau i Oedolion. Bydd gyda chi wybodaeth a dealltwriaeth o weithio ym maes iechyd / gofal cymdeithasol i oedolion a byddwch chi'n gyfarwydd â holl ddeddfwriaeth gyfredol yng Nghymru.

Mae adran Gwasanaethau i Oedolion yn ailstrwythuro ar hyn o bryd. Mae'r swydd wag yma'n rhan o'n Carfan Gofal a Chymorth Tymor Hir. Yn dilyn y broses ailstrwythuro, mae'n bosibl y bydd gofyn i chi weithio mewn carfan wahanol i'r un rydych chi'n ymuno â hi yn y lle cyntaf.

Os hoffech chi drafod y cyfle yma, cysylltwch â Karl Thomas: Karl.D.Thomas@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 07825424672.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Cynon Principal Office
Llewellyn Street
Aberdare
CF44 8HU
17 Mawrth 2023
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.