Gweld swydd wag -- Seicolegydd Addysg

Addysg - dim addysgu
Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant
Gwasanaethau Cynhwysiant
Soulbury
£40,838 - £50,584 + 3 phwynt SPA
Amser Llawn Parhaol

Mae Gwasanaeth Seicoleg Addysg Cyngor Rhondda Cynon Taf yn wasanaeth mawr sy'n cynorthwyo pobl ifainc a'u teuluoedd ac ysgolion mewn ardal ddaearyddol amrywiol. Mae'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda rhieni/cynhalwyr (gofalwyr), ysgolion ac asiantaethau partner er mwyn helpu pob plentyn a pherson ifanc i 'adeiladu dyfodol gwell'. Mae'r gwasanaeth yn gweithio'n helaeth ar lefel strategol a systemig ond yn therapiwtig hefyd gyda phlant a phobl ifainc unigol. Mae aelodau o'r garfan yn cymryd rhan weithredol mewn gwaith amlasiantaeth, gwaith rhyngddisgyblaethol, gwaith prosiect a gwaith ymchwil sy'n seiliedig ar gamau gweithredu.

Byddwch chi'n mwynhau gweithio gyda charfan fawr a chyfeillgar o Seicolegwyr Addysg cymwys sydd ag ystod eang o arbenigeddau a diddordebau. Mae'r garfan yn hyblyg yn ei dull o ddiwallu anghenion cymunedol amrywiol. Ar hyn o bryd mae gan y garfan nifer o is-grwpiau arbenigol mewn perthynas ag awtistiaeth, Ymateb i Ddigwyddiadau Critigol, Anawsterau Dysgu Penodol ac mae aelodau'r garfan yn cael eu hannog a'u cefnogi i ddatblygu diddordebau arbenigol ac yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr mewn asiantaethau partner.

Byddwch chi'n derbyn hyfforddiant ymsefydlu, mentora a goruchwyliaeth wedi'i theilwra. Mae modd gwneud ymholiadau anffurfiol drwy ffonio Rob Kempson, Pennaeth y Gwasanaeth Seicoleg Addysg – RhCT ar (01443) 744333. 

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar gymwysterau proffesiynol a bod wedi cofrestru â'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC). 

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n diwallu'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Ty Trevithick
Abercynon
Mountain Ash
CF45 4UQ
20 Chwefror 2023
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.