Gweld swydd wag -- Cynorthwyydd Gofal/Cynnal Cartref

Gofal Cymdeithasol - Oedolion
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Llety
Gradd 4
£11.18 - £11.81 yr awr gan ddibynnu ar ddyletswyddau
Gweithwyr Dros Dro

£11.18 YR AWR (GR 4) NEU £11.81 YR AWR (GR 5) GAN DDIBYNNU AR DDYLETSWYDDAU

Rydyn ni am benodi staff i gyflenwi ar ran gweithwyr amser llawn. O'ch penodi i'r swydd, bydd gofyn eich bod chi ar gael ar fyr rybudd i weithio yn ystod yr wythnos, dros y penwythnos a gyda'r nos. Rydyn ni'n darparu gofal o safon uchel ac ansawdd arbennig ar gyfer ein henoed eiddil a'r rhai sydd â dementia ac rydyn ni'n chwilio am unigolion addas i weithio yn ein gweithlu Gofal Cymdeithasol.

Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys gorchwylion cyffredinol yn ymwneud â chynnal cartref, gwaith cegin a gofal personol y preswylwyr a defnyddwyr y gwasanaeth.

Bydd angen i chi feddu ar agwedd aeddfed a deall anghenion pobl hŷn. Byddai profiad o weithio gyda phobl hŷn neu o dreulio amser yn eu cwmni o fantais.

Byddwch chi'n derbyn cymorth trwy fframwaith sefydlu Cymru Gyfan (AWIF) – rhaglen yw hon gyda’r nod o’ch paratoi chi ar gyfer eich swydd newydd.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r garfan reoli ganlynol:

Troed-y-Rhiw - Mrs Elaine Cable Rheolwr Cofrestredig / Mrs Alison Wynne Dirprwy Reolwr - (01443) 473520.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn gwireddu addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr a milwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

Sylwch, er bod dyddiad cau wedi'i nodi, mae hon yn hysbyseb barhaus a gwahoddir ymgeiswyr addas i gyfweld yn rheolaidd.

 

Yn ôl y galw
Troedyrhiw Care Home
Troedyrhiw Road
Mountain Ash
CF45 4LD
17 Ebrill 2023
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.