Gweld swydd wag -- Swyddog Graddedig Dro - Gwasanaethau i Oedolion

Cyfleoedd i Raddedigion
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion
Gradd 8
£26,317
Cyfnod Penodol

Tymor Penodol - 2 flynedd

Cynllun Graddedigion Cyngor RhCT 2020

Mae swydd i raddedigion gyda Chyngor RhCT yn agor drysau i swyddi a chyfleoedd gyrfa rhagorol eraill.

Dyma gyfnod cyffrous a llawn her ym myd Llywodraeth Leol, wrth iddo barhau i ddarparu gwasanaethau o safon uchel ochr yn ochr â gwerth am arian. Fe fydd swyddogaeth Llywodraeth Leol o ran llywio dyfodol ein cymunedau lleol yn bwysicach nag erioed.

Mae gweithio ym myd Llywodraeth Leol yn un o'r heriau anoddaf a mwyaf ysgogol i'r ymennydd wrth inni gynnal gwasanaethau sy'n effeithio ar filoedd o fywydau mewn amryw ffyrdd.

Mae'r Cyngor unwaith eto yn chwilio am weithwyr yn rhan o'i Raglen i Raddedigion sy'n cynnig amgylchfyd bywiog ar gyfer meithrin medrau newydd, trosglwyddadwy, yn ogystal â chyfleoedd i gwrdd â phobl o amryfal gefndiroedd ac i feithrin gyrfa yn Rhondda Cynon Taf.

O gymryd rhan y rhaglen yma, byddwch chi'n cael hyfforddiant wrth i chi weithio yn ogystal ag yn y coleg, cyflog cystadleuol, yr opsiwn i ymuno â Chynllun Pensiwn y Cyngor, 25 diwrnod o wyliau blynyddol (mewn blwyddyn lawn) a manteision megis ffioedd gostyngol ar gyfer aelodaeth â Chanolfannau Hamdden yn Rhondda Cynon Taf sy'n cael eu rhedeg gan y Cyngor a Chynllun Buddion i Staff.

Os oes disgwyl i chi ennill gradd 2i ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, seicoleg, cymdeithaseg, y gwyddorau cymdeithasol, gwaith ieuenctid neu gymunedol neu'n gweithio'n y maes gofal cymdeithasol ers ennill eich gradd 2i, mae modd i chi wneud cais i ddod yn rhan o Wasanaethau Gwaith Cymdeithasol i Oedolion y Cyngor yn rôl Swyddog Graddedig.

Ar ôl llunio rhestr fer gychwynnol, bydd asesiadau'n cael eu cynnal yn ystod wythnos gyntaf mis Mehefin. I'r rhai sy'n cael eu gwahodd i'r cam nesaf, bydd cyfweliadau unigol yn cael eu cynnal ar 3 Gorffennaf 2020. Oherwydd nifer fawr y ffurflenni cais, dydy'r dyddiadau yma ddim yn rhai hyblyg ond efallai y byddan nhw'n newid.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, e-bostiwch: CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rhondda-cynon-taf.gov.uk.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad ydy unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddynt hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymdeithas.

37
Ty Elai
Williamstown
Tonypandy
CF40 1NY
1 Medi 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.